Hanes Cymru (A History of Wales in Welsh)
16.99 JOD
Jordan: Deliverable within 48 hours
International: Deliverable within 7 Days
Description
Yn ymestyn o’r Oesoedd Iâ hyd y dwthwn hwn, mae’r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o’r byd y daethpwyd i’w hadnabod fel Cymru. Dyma’r llyfr sy’n egluro pam, ‘er gwaethaf pawb a phopeth, ‘rydym yma o hyd’.Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau’r glowyr a’r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae’r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.
Additional information
Weight | 0.511 kg |
---|---|
Dimensions | 3.2 × 12.9 × 19.8 cm |
by | |
Format | Paperback |
Language | |
Pages | 752 |
Publisher | |
Year Published | 2007-1-25 |
Imprint | |
Publication City/Country | London, United Kingdom |
ISBN 10 | 0140284761 |
About The Author | Y mae John Davies yn frodor o'r Rhondda. Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlchllan a Thregaron ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu'n ddarlithydd yng Ngholegau Abertawe ac Aberystwyth ac am ddeunaw mlynedd ef oedd Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Cardiff and the Marquesses of Bute, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, Y Celtiaid a Cardiff: a Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol a chyd-olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig/The Encyclopaedia of Wales. Yn 1997, ef oedd y prif siaradwr yng nghyfarfod sefydlu y North American Association for the Study of Welsh History and Culture. Mae ei wraig yn frodor o Flaenau Gwent ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab. |
Only logged in customers who have purchased this product may leave a review.
Reviews
There are no reviews yet.